Pantywennol

Fel un sy’n hoff o nofelau hanesyddol, crefydd, y goruwchnaturiol a novellas roeddwn i’n edrych ymlaen yn arw at gael darllen y nofel hon. Yn ogystal â hyn bu canmol mawr arni yn y wasg. Yr hyn a gawn yn Pantywennol (Y Lolfa) gan Ruth Richards yw unioni’r cam a wnaed ag Elin Ifans o Fynytho mewn chwip o stori gyda chymeriadau cofiadwy.

Dwn i ddim os ydych wedi bod yn gwrando ar Reith Lectures BBC Radio 4 yn cael eu traddodi gan Hilary Mantel yn ddiweddar, ond byrdwn Mantel ynddynt yw nad y gwirionedd yw ffeithiau hanesyddol, ond yn hytrach “evidence is always partial. Facts are not truth […] information is not knowledge.” Swyddogaeth y byw yw dehongli a llenwi’r blychau gan ail-ymweld â’r gorffennol i weld pa stori sydd heb ei hadrodd neu ba unigolyn neu gymuned sydd wedi cael cam gan ‘dystiolaeth’ yr hanesydd.

Mae Richards yn llwyddo i ddarlunio cyfnod ac ardal benodol yn gelfydd nes bod y darllenydd yn teimlo fel petai ef neu hi yn eistedd yn y capel cynnes llethol neu wrth fwrdd bwyd llwm a thlawd Pantywennol gyda’r cymeriadau, yn clywed y Gweinidog yn dweud ei ddweud neu’n gwrando arnynt yn adrodd eu hanesion. Ni allwn beidio â chydymdeimlo â theulu Pantywennol sy’n cael eu cam-drin gan gymdeithas grefyddol a ddylai wybod yn well a chwelir unrhyw feddyliau rhamantus sydd gennym am ‘yr hen ffordd Gymreig o fyw’ yng nghanol prydferthwch heddychlon cefn gwlad Cymru Mae yma hefyd bwysleisio safle (isel) menywod yn y gymdeithas. Dod yn wraig yw’r gorau y gallent obeithio a theimlwn y tensiwn hyn i’r byw gan mai merch wybodus a thalentog yw Elin Ifans sydd â’i bryd ar deithio’r byd gyda’i brawd sy’n forwr. Mae’r themâu yma yr un mor berthnasol heddiw, wrth gwrs.

Yn bersonol, unig wendid y nofel yw’r dehongliad o ddylanwad ofergoeliaeth ar grefydd y Methodistiaid. Dywed Mantell yn ei darlith, “The first lesson in understanding the past is not to assume anything about ethics, values, tastes.” Hynny yw, peidiwch â barnu’r gorffennol â rhagfarnau neu safbwyntiau modern. A fyddai etifeddion traddodiad grefyddol Christmas Evans, Robert Jones, Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn yn arddel y fath ofergoeliaeth?

Dyma nofel fywiog a chwareus sy’n aros yn y cof gan ei bod yn darlunio caledi a thywyllwch cyfnod ac ardal sy’n aml yn cael ei rhamanteiddio. Mae Richards wedi taflu golau ar y tywyllwch ac nid yw’r hyn sy’n cael ei ddatguddio bob tro’n ddarlun pert a hapus, ond dyna sut oedd hi ym Mhen Llŷn yn 1866 os oedd ysbryd aflan wedi’ch meddiannu. Dywed Mantell yn un o’i darlithoedd: “You become a novelist so you can tell the truth” a thrwy Richards, caiff Elin Ifans o Fynytho fynegi’r gwirionedd.

Sgôr: 3.5/5

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s