Awst yn Anogia

O’r dudalen gyntaf rydych yn ymwybodol eich bod yn nwylo meistr. Roedd Gareth F. Williams yn athrylith, boed yn ysgrifennu nofelau i bobl ifanc, sgriptiau neu nofelau i oedolion. Mae’r golled ar ei ôl dal i’w theimlo bron i  flwyddyn wedi ei farwolaeth ond mae ei waith dal yn ysgwyd dyn i’r byw. Mae’r ddawn dweud ac adrodd stori yn amlwg o’r cychwyn ac er y cefndir anghyfarwydd (Ynys Creta) a’r dorf o enwau egsotig mae’r darllenydd yn teimlo fel petai yn cael ei dywys ar hyd llwybr â llaw fedrus a chadarn wrth ddarllen Awst yn Anogia (Gwasg Gwynedd, 2il argraffiad Y Lolfa).

Yn gryno, hanes Ynys Creta adeg yr Ail Ryfel Byd yw cynnwys y nofel. Mae’r Almaenwyr mewn grym ac yn rheoli’n fwystfilaidd a chawn hanes y trigolion lleol wrth iddynt geisio dygymod â’r newid yn ddewr. Gwelwn y Cretiaid yn mynd o amgylch eu tasgau beunyddiol megis casglu malwod, hel clecs a dawnsio. Gwelwn hefyd yr andartes lleol yn lladd yr Almaenwyr. Gwelwn garwriaethau yn datblygu, teuluoedd yn chwalu a menywod yn cael eu gwneud yn weddwon.

Dyna, yn fras, yw cyd-destun y nofel. Mae’n nofel anferth – dros 500 o dudalennau. Clywais y golygydd yn dweud iddi orfod ceisio dileu 8,000 o eiriau. Credaf y gellir bod wedi tocio eto yma a thraw ond mae’r stori, er ei hyd, yn symud ar garlam oherwydd hanesion anghredadwy’r Cretiaid ac ysgrifennu bywiog Gareth F. Williams.

Mae yna dorf o gymeriadau: Offeiriadon, Cymro o filwr Prydeinig, bugeiliaid, plant ysgol, Almaenwyr tosturiol a Chretiaid gwyllt. Mae’n sicr y daw pob cymeriad yn ffrind mynwesol neu’n elyn diawledig sy’n byw yn y cof.

Cawn ein tywys gan Gareth F. William ar hyd llwybrau ag iddynt olygfeydd godidog a brawychus am yn ail, profir digwyddiadau tyner a thorcalonnus fesul dudalen a dangosai Gareth F. Williams, heb orfod pregethu, nad rhywbeth du a gwyn mo bywyd. Mae lladd, dial, casineb a thosturi yn dod o’r ddwy ochr mewn rhyfel.

O ystyried digwyddiadau ein dydd – Brexit, argyfwng ffoaduriaid, ymosodiadau terfysgol a chasineb Charlottsville – mae Gareth F. Williams yn ein hatgoffa o erchyllterau’r gorffennol ac yn dangos i ni ar ffurf nofel ysgytwol na ddylid anwybyddu creulondeb y de eithafol ac un ffordd o wrthsefyll creulondeb, fel y dangosodd y Cretiaid, yw drwy garu, canu a mynnu casglu malwod ar ôl y storm.

Sgor: 4.5/5

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s